Mae Cyngor Bwrdeistref Sir Caerffili wedi pleidleisio i fod yn Hyrwyddwyr Dim Datgoedwigo!
Rydym eisiau i Gymru fod yn genedl gyfrifol a moesegol sy’n sicrhau bod yr hyn rydym yn eu prynu yng Nghymru yn diogelu coedwigoedd trofannol rhag datgoedwigo, felly rydym yn hynod o gyffrous wrth gyhoeddi’r newyddion gwych hyn!
Gwyddom o drafod gyda’n partneriaid coedwig o gwmpas y byd bod datgoedwigo yn aml yn gysylltiedig â’r hyn rydym yn eu bwyta a’u hyfed: coffi, cacao, olew palmwydd, soi a chig eidion. Felly drwy gydweithio – ysgolion, cymunedau a chynghorau – gallwn wneud gwahaniaeth mawr i arafu datgoedwigo a newid hinsawdd.
Disgyblion angerddol yn rhannu eu gwybodaeth am datgoedwigo
Ym Mehefin 2026, fe benderfynodd disgyblion blwyddyn 6 Ysgol Gynradd Waunfawr wahodd cynghorwyr Cyngor Sir Caerffili – y rhai sy’n prynu prydau cinio ar gyfer yr holl sir – yn ôl i’r ysgol i ddysgu am goedwigoedd trofannol â’r effaith a gawn arnynt.
“Peidiwch â phoeni, yn yr ysgol hon mae gwersi yn teimlo fel gemau, mae oedolion yn dysgu gan ddisgyblion. A gall amser cinio fod y wers
bwysicaf un!”
Yna fe gafodd y cynghorwyr wersi am y cynhwysion bob dydd sydd yn rhan o’n bwydlenni cinio ysgol, ac sydd yn gysylltiedig â datgoedwigo a dinistr coedwigoedd trofannol, megis olew palmwydd; soi ar gyfer bwydo anifeiliaid; cig eidion o De America, a chacao ar gyfer siocled.
Prydau ysgol sy’n helpu pobl a’r blaned: ac hefyd yn flasus!
Fe gyflwynodd y plant brydau bwyd i’r cynghorwyr, rhai a fuasai’n berffaith ar gyfer unrhyw fwydlen ysgol: maethlon, fforddiadwy, ac yn rhydd o unrhyw gyswllt â datgoedwigo. Yn coginio gyda phencampwr ‘Masterchef’ James Nathan a chogyddes gynaliadwy leol Angharad Underwood
o’r clwb Cook Along, fe greodd y plant fwydlen ar gyfer dyfodol cynaliadwy.
Roedd arbrofi gyda blas a phrawf blasu yn rhan bwysig o’r broses, gyda disgyblion yn mynychu Gŵyl Fwyd Caerffili gyda’u creadigaethau blasus i’r cyhoedd eu blasu!
Roedd y neges i’r cyngor yn gwbl glir – cydweithiwch gyda ni i adeiladu dyfodol heb ddatgoedwigo.
‘Oherwydd nad yw’r dyfodol yn rhywbeth bod plant yn ei etifeddu yn unig. Mae’n rhywbeth rydym yn cyd-adeiladu. Felly, gynghorwyr, a wnewch chi ein helpu i greu byd gyda choedwigoedd trofannol, un pryd ar y tro?’
Mae’r garreg filltir hon yn dangos sut gall ein hysgolion a chymunedau weithredu i wneud gwahaniaeth byd-eang. Fel Hyrwyddwr Dim Datgoedwigo, bydd Cyngor Sir Bwrdeistref Caerffili nid yn unig yn amddiffyn coedwigoedd trofannol ond hefyd yn sicrhau gwell bwyd a bwyd iachach ar gyfer ysgolion yng Nghymru.




Eitemau eraill efallai yr hoffech chi
Diwrnod Rhyngwladol yr Orangwtan!
Dysgu gan y Bobl Batak Pakpak
