Beth yw COP Ieuenctid Cymru?
Mae COP Ieuenctid Cymru yn ddigwyddiad i bobl ifanc 9-14 oed o bob cwr o Gymru i gyfarfod a thrafod beth allwn ni ei wneud yma yng Nghymru i fynd i’r afael â newid hinsawdd a datgoedwigo. Ond allwn ni ddim ei wneud ar ein pennau ein hunain!
Gyda chynhadledd flynyddol yng Ngogledd Cymru ac yn Ne Cymru, bydd pobl ifanc ac ysgolion yn cyfarfod ag arweinwyr o Gymru a’r byd, fel Llywodraeth Cymru a chynghorau lleol; arbenigwyr diwydiant mewn bwyd a ffermio; a’n partneriaid coedwigaeth sy’n byw mewn rhanbarthau fforestydd glaw trofannol.
Gyda cymaint o wahanol farnau, gall pobl ifanc gael dealltwriaeth go iawn o’r materion, a ffeindio ffordd i wireddu’r ein gweledigaeth am fyd well!
Beth yw COP beth bynnag?
Bob blwyddyn, mae pobl o bob cenedl ledled y byd yn cwrdd i fynd i’r afael â’r problem o newid hinsawdd ac i drio arafu cynhesu ein planed, mewn digwyddiad rhyngwladol o’r enw “Cynhadledd y Pleidiau” – sy’n fwy adnabyddus fel COP.
Er mai gwesteion VIP ac arweinwyr gwleidyddol cyfredol sy’n cael eu gwahodd i’r prif drafodaethau yn bennaf, mae COP hefyd yn lle i lawer o bobl ymgynnull i leisio eu barn. Efallai y byddwch yn dod o hyd i elusennau diogelu coedwigoedd a grwpiau amgylcheddol, fel ni, Maint Cymru, neu hyd yn oed Pobl Frodorol y mae eu lleisiau’n hanfodol yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd.
Fodd bynnag, nid yw mynediad bob amser yn gyfartal – mae pobl sy’n cynrychioli cwmnïau tanwydd ffosil yn aml yn mynychu mewn niferoedd mawr, tra bod gan lawer o bobloedd a chymunedau Brodorol sy’n teimlo’r effeithiau fwyaf gan newid hinsawdd, gyda llai o gyfleoedd i fod yno a rhannu eu llais. Mae angen i hyn newid!







Eitemau eraill efallai yr hoffech chi
Cymru a’r Guarani: Sedd wrth y bwrdd
Pwy yw Maint Cymru?
