Neidio i'r prif gynnwy
Ewch i Maint Cymru English

SOS- achubwch yr orangwtaniaid!

Ysgol GynraddYsgol Uwchradd

Croesi'r bont rhaffau: llwyddiant mawr!

Pontio’r bwlch: sut y gall pobl ac orangwtaniaid gyd-fyw’n heddychlon yn y goedwig law!

Mae goedwigoedd Sumatra yn gartref i lawer o anifeiliaid gwyllt arbennig, fel yr orangwtan mawreddog (a chwerthinllyd!). 

Bu colled coedwigoedd yn y rhan hon o Asia am nifer o resymau, er enghraifft i ddefnyddio’r tir ar gyfer adeiladu ffyrdd tarmac newydd neu i blannu planhigfeydd olew palmwydd. I’r bobl sy’n byw ger y coedwigoedd, gall ffyrdd newydd galluogi deithiau hanfodol. I ni yng Nghymru ac mewn llawer o wledydd ledled y byd, mae’r olew palmwydd a dyfir mewn hinsawdd trofannol yn olew defnyddiol sy’n cael ei ddefnyddio mewn llawer o fwydydd a chynhyrchion bob dydd.

Os wyt ti’n orangwtan yn byw yn y canghennau, gall dorri coed fod yn beryglus…..bydd ffyrdd mawr a phlanhigfeydd yn torri eu cynefin i ddarnau llai, ac yn ei wneud hi’n anodd i anifeiliaid y goedwig groesi o un rhan o’r goedwig i’r llall. Gall poblogaethau orangwtan gael eu gwahanu, ac pan fyddan nhw am atgenhedlu bydd hi’n anodd iddyn nhw groesi i’r ochr arall. Mae hyn yn eu peryglu ac efallai byddai’n achosi iddyn nhw ddiflannu o’r goedwig.

Gwyliwch y fideo i ddysgu mwy am Sumatra

Taflu rhaff i fyd natur!

Rydym wrth ein bodd i gyflwyno i chi ein partneriaid coedwig – SOS (cymdeithas orangwtan Sumatra) a TaHuKah – sy’n gweithio i warchod coedwigoedd glaw yn Sumatra, Indonesia, Dwyrain De Asia.  Trwy weithio gyda’r grwp o bobl caredig a gweithgar hyn gallwn fynd i’r afael â’r broblem o ffyrdd newydd a chynefinoedd toredig drwy adeiladu pontydd rhaffau yng nghopa’r coed sy’n cysylltu’r goedwig ar y ddwy ochr i’r ffordd.

 

Hyd at 2026, mwncïod bach oedd y prif arloeswyr i fentro ar y bont, a nhw oedd y cyntaf i archwilio a dangos eu sgiliau syrcas! Roedd pawb yn gobeithio y byddai’r orangwtaniaid chwilfrydig yn gweld y mwncïod llai yn llwyddo i groesi, gan roi’r hyder iddynt roi cynnig arno. Bydd gallu croesi o un ochr o’r goedwig glaw i’r ochr arall yn hanfodol i oroesiad yr orangwtan fel rhywogaeth.

Croesi’r bont, o’r diwedd

Ar ôl dwy flynedd o aros: gyda dim ond un ymwelydd oren swil yn chwarae cuddio â’r camera, fe ddaeth y diwrnod o’r diweddf! Yn ngwanwyn 2026, cafodd orangwtan ei weld ar y camera cudd wrth iddo groesi’r bont – heb ofn o’r camera o gwbl! Edrychwch ar y ffilm wych hon o’r orangwtan ifanc yma yn croesi’r bont rhaff yn ofalus dros y ffordd. Mae e hyd yn oed yn stopio hanner ffordd, falle i gymryd cipolwg ar olygfa syfrdanol ei gartref coedwig law yn West Toba.  

Mae’r meincnod hwn yn stori llwyddianus iawn ym maes cadwraeth, gan mai dyma’r tro cyntaf i orangwtan Sumatran gael ei gofnodi yn defnyddio pont rhaffau artiffisial i groesi ffordd gyhoeddus – arwydd pwerus bod y pontydd hyn yn helpu ailgysylltu’r goedwigoedd toredig ac yn helpu’r orangwtan i symud trwy’r dirwedd.

Gwyliwch y fideo o'r bont yma

Eitemau eraill efallai yr hoffech chi

Gweld y cyfan

Cyngor Caerffili i ddod yn Hyrwyddwyr Dim Datgoedwigo

Hyrwyddwyr Dim Datgoedwigo

Diwrnod Rhyngwladol yr Orangwtan!

Ysgol Gynradd

Dysgu gan y Bobl Batak Pakpak

Ysgol GynraddYsgol Uwchradd

Ymunwch â'r Mudiad