Neidio i'r prif gynnwy
Ewch i Maint Cymru English

Ieuenctid COPtimistig!

COP IeuenctidYsgol GynraddYsgol Uwchradd

COP Ieuenctid Cymru

Beth yw COP Ieuenctid Cymru?

Mae COP Ieuenctid Cymru yn ddigwyddiad i bobl ifanc 9-14 oed o bob cwr o Gymru i gyfarfod a thrafod beth allwn ni ei wneud yma yng Nghymru i fynd i’r afael â newid hinsawdd a datgoedwigo.  Ond allwn ni ddim ei wneud ar ein pennau ein hunain!

Gyda chynhadledd flynyddol yng Ngogledd Cymru ac yn Ne Cymru, bydd pobl ifanc ac ysgolion yn cyfarfod ag arweinwyr o Gymru a’r byd, fel Llywodraeth Cymru a chynghorau lleol; arbenigwyr diwydiant mewn bwyd a ffermio; a’n partneriaid coedwigaeth sy’n byw mewn rhanbarthau fforestydd glaw trofannol.

 

Gyda cymaint o wahanol farnau, gall pobl ifanc gael dealltwriaeth go iawn o’r materion, a ffeindio ffordd i wireddu’r ein gweledigaeth am fyd well! 

Beth yw COP beth bynnag?

Bob blwyddyn, mae pobl o bob cenedl ledled y byd yn cwrdd i fynd i’r afael â’r problem o newid hinsawdd ac i drio arafu cynhesu ein planed, mewn digwyddiad rhyngwladol o’r enw “Cynhadledd y Pleidiau” – sy’n fwy adnabyddus fel COP.

Er mai gwesteion VIP ac arweinwyr gwleidyddol cyfredol sy’n cael eu gwahodd i’r prif drafodaethau yn bennaf, mae COP hefyd yn lle i lawer o bobl ymgynnull i leisio eu barn. Efallai y byddwch yn dod o hyd i elusennau diogelu coedwigoedd a grwpiau amgylcheddol, fel ni, Maint Cymru, neu hyd yn oed Pobl Frodorol ​​​​y mae eu lleisiau’n hanfodol yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd.

Fodd bynnag, nid yw mynediad bob amser yn gyfartal – mae pobl sy’n cynrychioli cwmnïau tanwydd ffosil yn aml yn mynychu mewn niferoedd mawr, tra bod gan lawer o bobloedd a chymunedau Brodorol sy’n teimlo’r effeithiau fwyaf gan newid hinsawdd, gyda llai o gyfleoedd i fod yno a rhannu eu llais. Mae angen i hyn newid!

Eitemau eraill efallai yr hoffech chi

Gweld y cyfan

Cymru a’r Guarani: Sedd wrth y bwrdd

COP IeuenctidHyrwyddwyr Dim DatgoedwigoYsgol GynraddYsgol Uwchradd

Pwy yw Maint Cymru?

COP IeuenctidHyrwyddwyr Dim DatgoedwigoYsgol GynraddYsgol Uwchradd
Defeorestation Free Champions

Beth ydy Hyrwyddwyr Dim Datgoedwigo?

Hyrwyddwyr Dim DatgoedwigoYsgol GynraddYsgol Uwchradd

Ymunwch â'r Mudiad