Mae Maint Cymru yn elusen unigryw sy’n gwneud Cymru’n rhan o’r ateb byd-eang i newid hinsawdd.
Am ddegawdau, defnyddiwyd “maint Cymru” fel uned fesur ar gyfer dinistrio ein cynefinoedd naturiol mwyaf gwerthfawr. Ers 2010, rydyn ni wedi dod â’n cenedl at ei gilydd i drowch hwn ar ei ben.
Gyda’n gilydd, rydym yn gweithio gyda phobl frodorol a phobl leol ar draws y byd i dyfu coed a diogelu o leiaf 2 filiwn hectar o goedwigoedd trofannol – ardal o faint Cymru.
Rydym yn addysgu ac yn ysbrydoli pobl yng Nghymru i gydnabod y rôl hollbwysig mae cymunedau brodorol yn ei chwarae mewn amddiffyn yr hinsawdd, bioamrywiaeth, a bywoliaethau.
Rydym yn ymgyrchu i sbarduno newid mewn polisi, ac rydym yn galw ar Gymru i ddod yn Genedl Dim Datgoedwigo gyntaf y byd.
Ein gweledigaeth yw helpu i greu dyfodol lle gall cymunedau coedwigoedd ffynnu ochr yn ochr â choedwigoedd trofannol iach—i wneud ein cenedl yn rhan o’r ateb, yn hytrach na’n rhan o’r broblem.
Mae’r wefan hon ar gyfer plant sydd eisiau dysgu mwy am goedwigoedd trofannol a’r bywyd ynddynt ar-lein ac mewn ffordd hwyl. I archebu gweithdai ysgol neu i ddarganfod mwy am Maint Cymru, ewch i’n prif wefan.