Neidio i'r prif gynnwy
Ewch i Maint Cymru English

Cymru a’r Guarani: Sedd wrth y bwrdd

COP IeuenctidHyrwyddwyr Dim DatgoedwigoYsgol GynraddYsgol Uwchradd

Dod ynghyd i daclo newid hinsawdd

Ym mis Tachwedd 2025, roedd cyfarfod COP rhyngwladol yn Belem, dinas ym Mrasil agos iawn at fforest law’r Amason. Galwodd rai y digwyddiad yn ‘COP y Goedwig’ oherwydd hyn, ac roedd llawer o grwpiau’n awyddus i drafod problem datgoedwigo, gan gynnwys Pobl Frodorol ​​a Maint Cymru.

Ar yr un pryd, ymchwiliodd COP Ieuenctid Cymru i atebion mwy lleol – beth allwn ni ei wneud i helpu yma yng Nghymru, i sicrhau hawliau tir i’r Guarani a gwneud Cymru’n Genedl Dim Ddatgoedwigo. Daeth pobl ifanc o bob cwr o Gymru ynghyd i drafod gyda chynghorau lleol, cyflenwyr bwyd a ffermwyr da byw.

COP Belem 2025

Yn COP Belem, ymunodd y Guarani â llawer o Bobloedd Brodorol ​​​​eraill i ddweud wrth arweinwyr y byd am y problemau datgoedwigo o ffermydd ffa soia, sy’n gwenwyno dŵr ar eu tir.

Mae Pobl Avá Guarani wedi byw yng nghoedwig law’r Iwerydd ym Mrasil ers cenedlaethau, a nhw yw gwarcheidwaid gorau’r goedwig law i amddiffyn rhag datgoedwigo. Mae ganddynt gysylltiad agos â’r tir, coedwig a natur, ac maen nhw ymhlith y gwarcheidwaid gorau o’r amgylchedd pwysig hwn. Yn anffodus, er gwaethaf byw yn y goedwig hon am filoedd o flynyddoedd, mae eu cartref yn cael ei ddinistrio, a dim ond 6% o dir eu coedwig sydd ar ôl erbyn hyn. Pan caiff y coedwigoedd yma eu gwarchod a’u gadael i dyfu’n naturiol, gallant helpu i amddiffyn y byd i gyd rhag effeithiau niweidiol newid hinsawdd.

Teithiodd ein dirprwy gyfarwyddwr, Barbara Davies-Quy, i Frasil i fynychu’r gynhadledd. Yn ystod ei thaith, ymwelodd â’r Bobl Avá Guarani yn eu cartref coedwig law yn Nghoedwig yr Iwerydd ym Mrasil, a gwelodd ei hun sut mae datgoedwigo gan ffermwyr soia yn effeithio ar eu ffordd o fyw.

 

Anfon negeseuon o obaith i’r Guarani

Yn ystod adeg mor bwysig i’r Guarani, penderfynodd plant yng Nghymru anfon neges o obaith a chefnogaeth atynt. Nid yw erioed wedi bod yn fwy pwysig i neges y Guarani gael ei chlywed, wrth i’w phobl wynebu heriau dyddiol o ganlyniad i ddatgoedwigo, gan achosi i goedwig law yr Iwerydd ddiflannu ar eu tir hynafiadol. Maen nhw hefyd yn wynebu hiliaeth, bygythiadau difrifol a thrais am geisio diogelu eu tiriogaeth.

Fe wnaeth plant yng Nghymru ddylunio lluniau o natur a thirweddau o Gymru ar liain bwrdd enfawr. Teithiodd y lliain bwrdd yr holl ffordd o Gymru i Goedwig yr Iwerydd yn ne Brasil, lle mae’r Guarani yn byw mewn harmoni gyda’r goedwig.

Yn ôl Barbara o Maint Cymru, roedd rhannu’r lliain bwrdd yn brofiad i godi’r calon:

‘Treuliodd pobl ifanc y Guarani amser hir yn darllen yr holl negeseuon, ac roeddent wedi cael eu syfrdanu bod plant oedd yn byw mor bell i ffwrdd ar ochr arall y byd wedi clywed am eu stori ac yn poeni cymaint amdanynt. Mae plant ifanc y Guarani yn wynebu llawer o hiliaeth yn yr ysgol, felly roedd gwybod bod plant yng Nghymru yn eu gwerthfawrogi yn golygu llawer.’

Roedd y lliain bwrdd yn ganolbwynt ein digwyddiad COP Ieuenctid Cymru 2025, a chafodd ei rannu hyd yn oed yn nigwyddiad go iawn COP yr UN ym Mrasil!

Dysgwch fwy am ffordd o fyw y Guarani

Sut mae'r bwyd ar ein platiau yn cysylltu â phobl y Guarani ym Mrasil?

Fyddech chi wedi syfrdanu wrth ddarllen y rhan nesa:- busnesau mawr sy’n torri cartref y Guarani yng Nghoedwig yr Iwerydd i lawr er mwyn tyfu soia. Mae’r busnesau hyn yn tyfu soia i wneud arian. Yna, maen nhw’n gwerthu’r soia i gwmnïau rhyngwladol ar draws y byd, ac mae’n cael ei gludo i wledydd gan gynnwys Cymru. Mae’r soia yn cael ei ddefnyddio gan ffermwyr yng Nghymru i fwydo anifeiliaid fel gwartheg, moch, defaid, cywion ieir a physgod. 

Yn y pen draw, mae’r anifeiliaid hyn yn diweddu fyny ar silffoedd yn ein harchfarchnadoedd ac ar ein platiau fel cig, neu fel bwydydd sy’n dod o anifeiliaid fel wyau, llaeth a chynhyrchion llaeth eraill.

Sut allwn ni wneud gwahaniaeth?

Daeth bobl ifanc ynghyd yn COP Ieuenctid Cymru 2025 i drafod beth sy’n effeithio ar y coedwigoedd trofannol ac yn achosi datgoedwigo yn Ne America. Nid yn unig y gwnaeth pobl ifanc gyfarfod â gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol i rannu’r hyn yr oeddent wedi’i ddysgu am y mater hwn, ond fe wnaethant hefyd ymchwilio i fwydydd cyffredin ar ein bwydlenni ysgol, a’u hailgynllunio i fod yn rhydd o ddatgoedwigo!

Sut allem wneud prydau o fwyd ‘dim datgoedwigo’ yn ein hysgolion? Roedd rhai syniadau yn cynnwys bwyta llai o gig ond o ansawdd gwell, fel cig organig neu gig wedi’i besgi ar borfa, neu swapio rhywfaint o gig a llaeth mewn ryseitiau bob dydd gyda mwy o fwydydd planhigion fel ffa, pys a chodlys.

Yn y prynhawn, cyflwynodd y bobl ifanc eu dysglau i wahanol bobl oedd ynghlwm yn y gadwyn fwyd, ac fe wnaethant ofyn cwestiynau pwysig am sut y gellid cynnwys y dysglau hyn yn eu bwydlenni ysgolion. Roedd yn wych gweld Gweinidogion Llywodraeth Cymru, myfyrwyr, cynghorwyr lleol, cyflenwyr bwyd a ffermwyr i gyd yn dod at ei gilydd i drafod sut y gallai Cymru helpu datrys datgoedwigo!

Darllenwch mwy am COP Ieuenctid

Mae’r ateb i’w gael yn yr erthygl uchod!

(Ydych chi’n dal yn sownd? ok,ok. Mae’r rhan fwyaf o’r soia sy’n cael ei fewnforio i Gymru ar gyfer……B. bwyd anifeiliaid ar ffermydd soia a llaeth! Mae’r soia y tu mewn i’n bwydydd eraill – rydyn ni’n galw hyn yn ‘soia cudd’. Felly sawl gwaith y dydd rydyn ni’n bwyta soia wedi’i cuddio mewn cig a llaeth?)

Eitemau eraill efallai yr hoffech chi

Gweld y cyfan

Pwy yw Maint Cymru?

COP IeuenctidHyrwyddwyr Dim DatgoedwigoYsgol GynraddYsgol Uwchradd

Ieuenctid COPtimistig!

COP IeuenctidYsgol GynraddYsgol Uwchradd
Defeorestation Free Champions

Beth ydy Hyrwyddwyr Dim Datgoedwigo?

Hyrwyddwyr Dim DatgoedwigoYsgol GynraddYsgol Uwchradd

Ymunwch â'r Mudiad